Ar Mai 1af 2008, bydd eich cynghorwyr lleol yn wynebu etholiad i gadw eu seddau. Mae Cynhalwyr Cymru a Chynghrair Cynhalwyr Cymru wedi datblygu Maniffesto gofalwyr o’r enw Chwarae Teg i Gynhalwyr, a seiliwyd ar holiadur a gwblhawyd gan y gofalwyr ar gyfer etholiadau'r Cynulliad y llynedd.
Gyda chynghorau lleol yn torri nôl ar wasanaethau i chi a'r bobl rydych yn gofalu amdanynt, pan fyddwch yn dod i gyswllt ag ymgeisydd, mae’n bwysig eich bod yn eu holi am bolisïau eu plaid ar faterion cynhalwyr a beth fyddent yn ei wneud i chi.