Hafan | Amdanom ni | Gwybodaeth | Polisi ac Ymarfer | Newyddion ac Ymgyrchoedd | Cymerwch Rhan

Systemau yn methu cynhalwyr

30 May 2007

Mae adroddiad newydd gan Carers UK, Real Change, Not Short Change, yn galw am adolygiad o incwm a gwasanaethau i gynhalwyr a’u teuluoedd.

Heddiw, (30 Mai 2007), mae Carers UK yn lansio adroddiad arswydus newydd ar effaith ariannol hirdymor bod yn gynhaliwr. Trwy gynnal arolwg o 3,000 o gynhalwyr, gwelwyd eu bod yn wynebu baich ariannol trwm cyn gynted ag y maent yn dechrau gofalu, yn ddi-dâl, am berthynas neu ffrind anabl neu sydd â salwch cronig. Ond eto, mewn cyferbyniad â hynny, mae eu cymorth yn werth £57 biliwn y flwyddyn i’r wladwriaeth.

Canfu’r arolwg bod cynhalwyr yn gorfod gwerthu eu cartrefi, gwario llai ar fwyd, gwres a dillad, rhoi’r gorau i’w swyddi ac aberthu eu pensiwn - gan adael llawer yn bryderus iawn am eu dyfodol ariannol. Mae’r canfyddiadau diweddaraf hyn yn dangos yn glir iawn nad yw’r system fudd-daliadau bresennol yn galluogi cynhalwyr i gael safon byw dderbyniol nac yn cydnabod na gwerthfawrogi’r cyfraniad maent yn ei wneud i’r economi genedlaethol. 

Meddai Roz Williamson, Cyfarwyddwraig Cynhalwyr Cymru: “Mae cynhalwyr yn cael eu gorfodi i beidio â gweithio yn aml gan nad yw’r system gofal cymdeithasol yn rhoi’r cymorth sydd ei angen arnynt. Yna, maent yn gorfod byw ar y cyrion gan fod y system fudd-daliadau mor hen ffasiwn. Mae cynhalwyr yn teimlo fod y system yn eu methu. 

Mae tueddiadau demograffig yn dangos bod angen tair miliwn yn rhagor o gynhalwyr dros y 30 mlynedd nesaf. Mae hyn yn golygu y bydd tua 10 miliwn o bobl yn wynebu’r caledi sy’n gysylltiedig â bod yn gynhaliwr - a’r effeithiau niweidiol a all fod yn rhan o’u bywydau am weddill eu hoes.

“Nid yw budd-daliadau i gynhalwyr yn addas i’r diben. Fe’u cynlluniwyd yn y 1970au pan oedd y byd yn lle gwahanol iawn. Mae angen diwygio’r system fudd-daliadau a threthi yn sylweddol. Mae angen buddsoddi’n drwm ym maes gofal cymdeithasol hefyd i sicrhau bod cynhalwyr a’u teuluoedd yn gallu manteisio ar bethau mae pobl eraill yn eu cymryd yn ganiataol – mynd allan i siopa, cael penwythnos i ffwrdd, mynd ar gwrs a gweithio.

Mae Jill Pay yn gofalu am ei merch Rowan (18) sy’n anabl. Meddai: “Mae teuluoedd fel fy nheulu i yn byw o dan bwysau ariannol parhaus. Fyddwn i ddim am roi’r gorau i ofalu am Rowan. Ond dwi am gael yr un cyfleoedd â phawb arall i weithio, astudio a magu teulu.”Cynhaliodd Carers UK arolwg o 3000 o gynhalwyr. Canfuwyd bod:

  • 72% yn waeth eu byd ers dechrau gofalu
  • 65%  heb fod mewn gwaith cyflogedig
  • 54% wedi rhoi’r gorau i weithio er mwyn gofalu
  • 53% yn dweud bod pryderon ariannol yn effeithio ar eu hiechyd
  • 33% mewn dyled
  • 30% yn gwario llai ar fwyd neu wres
  • 10% yn methu â fforddio talu rhent neu forgais.

 Roedd yr arolwg hefyd yn edrych ar y rhwystrau mae cynhalwyr yn eu hwynebu er mwyn gallu parhau i weithio. Dywedodd bron i hanner yr ymatebwyr (45%) eu bod yn dymuno gweithio. Ond dywedodd chwech o bob deg o gynhalwyr bod lefel a chymhlethdod y gofal roeddynt yn ei ddarparu yn eu rhwystro rhag gweithio. 

 Canfyddodd yr arolwg bod gofalu yn effeithio’n drwm ar gynhalwyr yn y flwyddyn gyntaf, gyda chynhalwyr yn cael trafferth i ymdopi â newidiadau yn eu sefyllfa bersonol a’u sefyllfa ariannol wrth iddynt roi’r gorau i weithio a gorfod ysgwyddo costau ychwanegol anabledd. Wedi hynny, mae yna ddirywiad graddol yn eu sefyllfa ariannol dros amser.

Rhieni plant anabl o dan 18 oed a rhieni sy’n gofalu am eu plant anabl wedi iddynt dyfu’n oedolion sy’n cael eu heffeithio fwyaf. Y rhai o dan 60 oed oedd yn dioddef fwyaf, gyda dyledion trwm, anhawster i dalu biliau a gorfod benthyg arian gan deulu a ffrindiau.

 Meddai Imelda Redmond, Prif Weithredwr Cynhalwyr DU, “Mae’r adolygiad o’r Strategaeth Genedlaethol DU ar gyfer Gofalwyr, a gyhoeddwyd gan y Llywodraeth, yn gyfle gwych i adolygu’r system i gynhalwyr ac ateb y galw yn briodol. Mae’n hen bryd cael cytundeb cymdeithasol rhwng y Llywodraeth a chynhalwyr.

 Dengys yr arolwg hefyd bod y Llywodraeth yn gallu gwneud gwahaniaeth i fywydau cynhalwyr wrth fuddsoddi mewn cymorth ymarferol ac incwm iddynt. Mae angen i’r gefnogaeth hon barhau.

 Yn ddiweddar, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi ail-ganolbwyntio ei Strategaeth ar gyfer Gofalwyr yng Nghymru.

 Mae Carers UK yn annog cynhalwyr i ymuno â’i ymgyrch newydd, Real Change, Not Short Change, i sicrhau triniaeth well i gynhalwyr. Ewch i ww.carersuk.org. 

- diwedd -                                                               25/05/07

 

Gwybodaeth bellach

Maggie Titterton, Swyddog Datblygu     Roz Williamson – Cyfarwyddwraig,

Cynhalwyr Cymru                                Cynhalwyr Cymru

Ffôn:  02920 811370                           Ffôn:  02920 811370

Symudol:  0786 6539075                     Symudol:  07866544066

 

Nodiadau i olygyddion

 

1. Mae llefarwyr ac astudiaethau achos ar gael i’w cyfweld a’u ffilmio trwy ffonio’r rhifau uchod.

 

Back to list

top of page


Secondary navigation

Hafan Amdanom ni Gwybodaeth Polisi ac Ymarfer Newyddion ac Ymgyrchoedd Cymerwch Rhan Privacy Policy Disclaimer Copyright Adborth
argraffu'r dudalen hon argraffu'r dudalen hon
banner_logo_05_01.gif banner_logo_05_02.jpg
English