Hafan | Amdanom ni | Gwybodaeth | Polisi ac Ymarfer | Newyddion ac Ymgyrchoedd | Cymerwch Rhan

Cyfweliad unigryw Cynhalwyr Cymru â John Griffiths AC, hyrwyddwr cynhalwyr

05 October 2006

Gofynnodd Cynhalwyr Cymru y cwestiynau canlynol i’r Dirprwy Weinidog.

1. Beth yw’r prif bryderon a materion sy’n effeithio ar gynhalwyr yng Nghymru yn eich barn chi?

Yn ystod yr haf, rwyf i wedi ymweld â llefydd ledled Cymru i ganfod gwybodaeth, gan wrando ar yr hyn sydd gan gynhalwyr a sefydliadau cynhalwyr i’w ddweud. Mewn sawl man, y farn oedd bod bylchau rhwng y theori a’r hyn sy’n digwydd ar lawr gwlad mewn gwirionedd er bod polisïau da ar waith. Felly un o’r materion y bydd angen i Lywodraeth y Cynulliad fynd i’r afael ag ef wrth i ni adolygu ein Strategaeth ar gyfer Gofalwyr yw pa mor dda y mae polisïau’n cael eu gweithredu’n lleol, a sut gallwn ni ddylanwadu ar hyn trwy dargedau a dangosyddion perfformiad awdurdodau lleol a’r gwasanaeth iechyd.

Mae llawer o gynhalwyr wedi sôn wrthyf i am y system budd-daliadau, yn enwedig y Lwfans Cynhalwyr. Er mai budd-daliadau’r DU yw’r rhain ac felly nid yw’r cyfrifoldeb drostynt wedi’i ddatganoli i Lywodraeth y Cynulliad, rydyn ni mewn cysylltiad rheolaidd â’r Adran Gwaith a Phensiynau. Rwyf ar ddeall bod yr Adran bellach yn ystyried ffyrdd i sefydliadau sy’n cynrychioli cynhalwyr ddarparu adborth uniongyrchol i’r Adran a rhannu gwybodaeth a gwaith dadansoddi am y materion sy’n wynebu cynhalwyr.

Mater arall yw beth yw’r ffordd orau o gynorthwyo cynhalwyr mewn cyflogaeth tra’u bod yn gofalu am rywun neu eu helpu i ddod o hyd i swyddi pan fo’u hamgylchiadau’n newid. Wrth asesu anghenion gofal, mae cyfrifoldeb cyfreithiol ar awdurdodau yng Nghymru i ystyried dymuniad cynhalwyr i weithio ac mae’n bosib bod datblygu cymorth lleol mwy hyblyg yn rhan o’r ateb. Bydd angen ail-ystyried y trefniadau hyn pan ddaw’r Ddeddf Gwaith a Theuluoedd newydd i rym y flwyddyn nesaf.

Mae cynhalwyr ifanc yn wynebu anawsterau arbennig oherwydd yr effaith y gall gofalu ei chael ar eu haddysg a’u bywyd. Mae’n hanfodol bod gweithwyr proffesiynol ym meysydd iechyd, gwasanaethau cymdeithasol ac addysg yn ymwybodol o’r angen i ganfod cynhalwyr ifanc, deall eu hanghenion a darparu cymorth effeithiol. Mewn llawer o ardaloedd, mae gwasanaethau i oedolion a gwasanaethau plant yn cysylltu’n dda â’i gilydd yn lleol ond mae angen i ni sicrhau bod yr arferion da hyn yn cael eu rhoi ar waith ledled Cymru.

 

Dywed cynhalwyr wrthyf hefyd bod Gwasanaethau Iechyd yn bwysig yn y gwaith o ganfod cynhalwyr ac ymgysylltu â nhw fel partneriaid. Mae angen i ni asesu effaith y contract meddygon teulu newydd o ran helpu cynhalwyr i gael y gwasanaethau y maen nhw eu hangen, a hefyd pa mor dda y mae’r canllawiau ar ryddhau cleifion o’r ysbyty yn gweithio mewn gwirionedd.

2. Sut ydych chi’n bwriadu defnyddio eich swydd i hyrwyddo newidiadau yn y llywodraeth a fydd o fantais wirioneddol i gynhalwyr?  

Cytunodd holl Gabinet Llywodraeth y Cynulliad i’m mhenodi i’n Eiriolwr dros Ofalwyr. Pan fo materion cynhalwyr yn cael eu trafod yn y Cynulliad, mae’r Aelodau bob amser yn mynegi llawer o edmygedd ac ewyllys da. Fy ngobaith yw gallu manteisio ar yr ewyllys da yn y Cabinet a’r Cynulliad drwyddo draw a cheisio rhoi newidiadau ar waith a fydd yn gwneud gwahaniaeth go iawn. Mae pawb yn gytûn bod angen parhaus i sicrhau Llywodraeth fwy cydlynol, ac fel “eiriolwr”, gallaf fod yn gyfrwng i sicrhau hynny. Bydd parhau i godi proffil cynhalwyr a’u pryderon ac asesu effaith amrywiaeth o bolisïau Llywodraeth y Cynulliad ar gynhalwyr yn rhan bwysig o’m swydd yn y Cynulliad, ochr yn ochr â sicrhau ein bod ni’n newid ffocws ein Strategaeth ar gyfer Gofalwyr fel ei bod yn barod i fynd i’r afael â heriau’r dyfodol.


3. Sut byddwch chi’n mynd ati i sicrhau eich bod chi’n ymwybodol o’r materion diweddaraf sy’n wynebu cynhalwyr?

 

Y peth pwysig i mi yw gwrando ar gynhalwyr a pheidio dibynnu’n llwyr ar farn pobl eraill ynglŷn â’u pryderon. Mae’n amlwg bod sefydliadau gwirfoddol sy’n cynrychioli cynhalwyr yn ganolog i’r gwaith hwn a byddaf yn cyfarfod â nhw’n rheolaidd. Rwy hefyd wedi ysgwyddo’r cyfrifoldeb o gadeirio Panel Adolygu’r Strategaeth ar gyfer Gofalwyr, sy’n cynghori Llywodraeth y Cynulliad yn ffurfiol ar faterion cynhalwyr. Mae aelodau’r Panel yn cynnwys cynhalwyr a chynrychiolwyr sefydliadau gwirfoddol, llywodraeth leol a’r GIG, grwpiau lleiafrifoedd ac undebau llafur. Mae’n bwysig hefyd fy mod yn parhau i ymweld â phrosiectau cynhalwyr lleol i glywed beth sydd ganddyn nhw i’w ddweud.


4. Sut byddwch chi’n mesur llwyddiant eich penodiad?

 

Yr adborth pwysicaf yw adborth cynhalwyr eu hunain. Bydd aelodau Panel Adolygu’r Strategaeth ar gyfer Gofalwyr hefyd yn hollbwysig yn yr un modd ag y mae datblygu ymhellach ein gwaith casglu gwybodaeth a data gan awdurdodau ledled Cymru. Bydd hyn oll yn fy ngalluogi i ac eraill i asesu pa mor llwyddiannus yw fy nghyfnod yn y swydd.

 

Back to list

top of page


Secondary navigation

Hafan Amdanom ni Gwybodaeth Polisi ac Ymarfer Newyddion ac Ymgyrchoedd Cymerwch Rhan Privacy Policy Disclaimer Copyright Adborth
argraffu'r dudalen hon argraffu'r dudalen hon
banner_logo_05_01.gif banner_logo_05_02.jpg
English