“Byddai’r gymdeithas ar chwâl heb gynhalwyr, peidiwch â’n hanwybyddu. Mae ein llais yn cryfhau o hyd. Yr unig beth rydym ni’n gofyn amdano yw cael ein trin yn deg.” Neges cynhaliwr i’r llywodraeth.
Mae cynhalwyr yng Nghymru yn arbed £5.69 biliwn y flwyddyn i’r gymdeithas ond mae llawer ohonyn nhw’n wynebu tlodi ac unigedd ac nid oes ganddyn nhw lawer o gydnabyddiaeth na statws. Mae Cynhalwyr Cymru’n ymgyrchu i roi diwedd ar yr anghyfiawnder hwn.
Llwyddiant!Daeth Deddf Gofalwyr (Cyfle Cyfartal) 2004 yn gyfraith ym mis Gorffennaf 2004. Mae gwaith bellach ar y gweill i sicrhau y bydd yr hawliau newydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau cynhalwyr. mwy… |
Tlodi mewn henaint
Lwfans Gofalwyr yw’r budd-dal isaf o’i fath ac mae’n dod i ben i lawer o gynhalwyr pan fyddan nhw’n 65 oed. mwy… |
Gall gofalu effeithio ar eich iechyd
Dysgwch am sut y gall gofalu effeithio ar eich iechyd a’r hyn y mae Carers UK am ei newid. mwy… |
|
Page Last Modified: 07/04/2008