Gwybodaeth
Efallai eich bod chi’n gofalu am gyfaill, perthynas neu gymydog sydd angen cymorth oherwydd eu salwch, oedran neu anabledd. Dydych chi ddim ar eich pen eich hun – mae chwe mil o bobl yn cymryd cyfrifoldebau gofalu bob dydd. Carers UK yw’r prif ddarparwr gwybodaeth am yr holl faterion sy’n ymwneud â gofalu.
Yn aml, defnyddir y term ‘cynhaliwr’ i wahaniaethu rhwng cyfeillion a theulu sy’n darparu gofal di-dâl a gweithwyr proffesiynol fel gweithwyr gofal, cymorth cartref a phobl a gyflogir gan bobl ag anabledd.
Cymorth ariannolMae hawl gan gynhalwyr dderbyn budd-daliadau arbennig a chymorth gyda chostau tai. Efallai y byddwch hefyd am wybod beth all y sawl sy’n derbyn gofal gennych ei hawlio. mwy… |
Cymorth gyda gofalEfallai y byddwch chi angen gwyliau. Efallai y byddwch chi angen cymorth gyda rhai tasgau ymarferol fel codi a rhoi bath i rywun. Efallai bod y sawl sy’n derbyn gofal gennych chi yn dychwelyd o’r ysbyty ac angen mwy o gymorth. mwy… Dod o hyd i gymorth yn eich ardal Defnyddiwch ein cyfeiriadur cynhalwyr i ddod o hyd i gymorth yn eich ardal leol. mwy… |
Cyfuno gofal a gwaithEfallai eich bod yn gweithio, yn ymdopi â straen dwy swydd ar yr un pryd – un yn gyflogedig, un yn ddi-dâl – ac yn wynebu penderfyniadau anodd am eich gwaith. mwy… |
Dod o hyd i gymorth yn eich ardalDefnyddiwch ein cyfeiriadur cynhalwyr i ddod o hyd i gymorth yn eich ardal leol. mwy… |
Page Last Modified: 07/04/2008