Hafan | Amdanom ni | Gwybodaeth | Polisi ac Ymarfer | Newyddion ac Ymgyrchoedd | Cymerwch Rhan

Pwy yw'r cynhalwyr?

Mae Mair yn un o’r 350,000 o bobl yng Nghymru (6 miliwn o bobl ym Mhrydain) sy’n gofalu am deulu, partneriaid neu gyfeillion sydd angen cymorth oherwydd eu bod yn sâl, yn agored i niwed neu’n anabl. Mae’r gofal a ddarperir ganddyn nhw werth £3.5 biliwn yng Nghymru – y gost o redeg y GIG. Gall pobl o bob math a chefndir fod yn gynhalwyr – bydd mwy na 3 o bob 5 o bobl yn y DU yn dod yn gynhalwyr ar ryw adeg yn eu bywyd.

Beth mae cynhalwyr yn ei wneud?

 

Gall darparu gofal amrywio o helpu gyda’r siopa i ddarparu gofal ddydd a nos. Gallai hefyd gynnwys goruchwylio cyson i sicrhau nad yw’r unigolyn yn dioddef unrhyw niwed. Mae llawer o gynhalwyr yn rhoi cefnogaeth emosiynol i’r rhai sy’n derbyn gofal ganddyn nhw. Mae rhai cynhalwyr yn cynorthwyo gyda thasgau fel cymryd bath, gwisgo, mynd i’r toiled, mynd i’r gwely, codi o’r gwely, defnyddio’r grisiau a rhoi meddyginiaethau. Gall gofalu roi boddhad mawr, ond mae llawer yn wynebu unigedd, tlodi ac afiechyd.

Gall gofalu effeithio ar eich gallu i gael swydd gyflogedig. Mae Mair yn gofalu am ei mab sydd ag awtistiaeth a bu’n rhaid iddi wrthod swydd gan nad oedd y gwasanaethau ar gael i ofalu am ei mab pan oedd angen.

Cynhalwyr Cymru

Sefydliad o gynhalwyr ar gyfer cynhalwyr yw Cynhalwyr Cymru. Rydym ni am sicrhau chwarae teg i bob cynhaliwr a’r bobl sy’n derbyn gofal ganddyn nhw. Dylent gael yr hawl i ddewis sut i fyw eu bywydau.


 

Back to top

Page Last Modified: 24/04/2007


Secondary navigation

Hafan Amdanom ni Gwybodaeth Polisi ac Ymarfer Newyddion ac Ymgyrchoedd Cymerwch Rhan Privacy Policy Disclaimer Copyright Adborth
argraffu'r dudalen hon argraffu'r dudalen hon
banner_logo_02_01.gif banner_logo_02_02.jpg
English