Hafan | Amdanom ni | Gwybodaeth | Polisi ac Ymarfer | Newyddion ac Ymgyrchoedd | Cymerwch Rhan

Cynhalwyr Cymru

Pwy ydym ni?

Mae Cynhalwyr Cymru yn rhan o Carers UK. Rydym yn gweithio i wella bywyd cynhalwyr yng Nghymru. Rydym yn sefydliad sy’n canolbwyntio ar bolisïau, ymgyrchu a gwybodaeth. Rydym yn sefydliad aelodaeth sy’n cael ei redeg gan gynhalwyr ar gyfer cynhalwyr trwy Fwrdd Ymddiriedolwyr etholedig. Pwyllgor Cymru, a etholir gan aelodau yng Nghymru, sy’n arwain ac yn dylanwadu ar ein polisïau. Is-bwyllgor y Bwrdd Ymddiriedolwyr yw Pwyllgor Cymru.

Mae swyddfa Cynhalwyr Cymru yn:

Ty'r Afon

Ynysbridge Court

Gwaelod y Garth

Caerdydd

CF15 9SS

Mae gennym ni dîm bychan o staff sy’n cynnwys Cyfarwyddwr, Gweithiwr Datblygu, Swyddog Gwybodaeth a dau weithiwr gweinyddol. Sefydlwyd y swyddfa yng Nghymru ym 1992.

Rydym yn elusen gofrestredig a chwmni cyfyngedig gan warant.

Cysylltwch â ni yn (info@carerswales.org.uk)

Beth ydym ni’n ei wneud?

Mae cynhalwyr am gael llais ac ennill y gydnabyddiaeth a’r gefnogaeth y maen nhw’n ei haeddu. Dyma pam y sefydlwyd Carers UK ac maen nhw’n parhau i’w gefnogi.

Yng Nghymru, rydym yn cadw mewn cysylltiad â chynhalwyr trwy ein haelodaeth a’n rhwydweithiau o ganghennau a chysylltiadau. Rydym yn defnyddio profiadau cynhalwyr i:

● Ddylanwadu ar bolisïau’r llywodraeth trwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru
● Gweithio i wella’r gwasanaethau sy’n effeithio ar fywydau cynhalwyr yn lleol
● Rhoi gwybod i gynhalwyr am eu hawliau a’r cymorth sydd ar gael
● Ymgyrchu gydag eraill ar faterion sy’n berthnasol i’r DU i gyd fel budd-daliadau i gynhalwyr..

Back to top

Page Last Modified: 24/04/2007


Secondary navigation

Hafan Amdanom ni Gwybodaeth Polisi ac Ymarfer Newyddion ac Ymgyrchoedd Cymerwch Rhan Privacy Policy Disclaimer Copyright Adborth
argraffu'r dudalen hon argraffu'r dudalen hon
banner_logo_02_01.gif banner_logo_02_02.jpg
English